Datganiad y Fforwm Rhyngseneddol

28 Hydref 2022

 

Cyfarfu’r Fforwm Rhyngseneddol am yr ail dro heddiw, yn y Senedd yng Nghaerdydd. Mae hyn ar ôl iddo gael ei sefydlu ym mis Chwefror eleni fel olynydd y Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit. 

Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys cynrychiolwyr o bwyllgorau Senedd Cymru, Senedd yr Alban, Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.  Roedd swyddog o Gynulliad Gogledd Iwerddon hefyd yn bresennol fel sylwedydd. Croesawyd y rhai a oedd yn bresennol i’r Senedd gan y Llywydd, y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS.

Yn dilyn diweddariadau gan bob deddfwrfa, bu’r Fforwm yn trafod goblygiadau Biliau pwysig ar lefel y DU ar Brotocol Gogledd Iwerddon a chyfraith yr UE a ddargedwir, sydd ar hyn o bryd yn mynd drwy Senedd y DU ac sy’n destun y broses cydsyniad deddfwriaethol yn y deddfwrfeydd datganoledig. Yn ein trafodaeth ar y Biliau hyn, gwnaethom nodi’r pryder cynyddol ar draws pob un o’n deddfwrfeydd ac ymhlith sylwebwyr annibynnol ynghylch cwmpas pwerau dirprwyedig yn neddfwriaeth y DU sy’n ymwneud ag ymadael â’r UE. Cytunodd y rhai a oedd yn bresennol i adrodd yn ôl i bwyllgorau craffu yn eu deddfwrfeydd, gan gynnwys y rhai yn San Steffan sy’n craffu ar y Biliau yn ystod eu taith drwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. 

Roedd y drafodaeth hefyd yn gyfle i ystyried sut mae llywodraethau’r DU yn cydweithio er budd eu dinasyddion ac o safbwyntiau pob senedd.

Yn sesiwn olaf y Fforwm, atebodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw AS, gwestiynau am farn Llywodraeth Cymru ar y materion hyn gan gynnwys ei pherthynas â Llywodraeth y DU.

Yn bresennol

Karin Smyth AS, Aelod o’r Pwyllgor, Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol, Tŷ'r Cyffredin

Rob Roberts AS, Aelod o’r Pwyllgor, Pwyllgor Materion Cymreig, Tŷ'r Cyffredin

Yr Arglwydd Kinnoull, Cadeirydd, Pwyllgor Materion Ewropeaidd, Tŷ'r Arglwyddi

Y Farwnes Drake, Cadeirydd, Pwyllgor y Cyfansoddiad, Tŷ’r Arglwyddi

Clare Adamson ASA, Cynullydd, Pwyllgor y Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant, Senedd yr Alban

Huw Irranca-Davies, Cadeirydd, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Senedd Cymru